Moelfre, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Moelfre (gwahaniaethu).
Cofeb Dic Evans, Moelfre.

Pentref a chymuned ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn yw Moelfre, tua hanner y ffordd rhwng Benllech ac Amlwch. Pysgota oedd prif weithgaredd y trigolion yn y gorffennol, ond yn awr mae'n bentref gwyliau pur boblogaidd. Mae yno harbwr bychan, a heb fod ymhell o'r pentref mae ynys fechan, Ynys Moelfre. Gellir dilyn Llwybr Arfordirol Ynys Môn trwy'r pentref.

Y môr[golygu]

Mae Moelfre yn adnabyddus fel y man lle drylliwyd y llong Royal Charter ym mis Hydref 1859 tra'n hwylio o Awstralia i Lerpwl. Drylliwyd hi ar y creigiau rhwng y pentref a Thraeth Lligwy, ac mae cofeb yn nodi'r fan. Bu farw tua 450 o bobl; y nifer mwyaf i farw mewn unrhyw longddrylliad ar draethau Cymru. Bron yn union gan mlynedd yn ddiweddarach drylliwyd llong arall, yr Hindlea bron yn union yn yr un fan. Y tro hwn achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre.

Daeth bad achub Moelfre yn enwog dan Richard (Dic) Evans (1905 – 2001), a enillodd nifer o fedalau am ei wrhydri yn achub bywydau. Mae cerflun efydd o Dic Evans gan Sam Holland i'w weld ger cwt y bad achub yn y pentref.

Hanes[golygu]

Gerllaw Moelfre mae nifer o hynafiaethau diddorol, yn cynnwys siambr gladdu Lligwy a Din Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ceir hefyd clwstwr cytiau caeëdig Bwlch-y-Dafarn a chlwstwr cytiau Mynydd Bodafon gerllaw a Chapel Lligwy, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Moelfre (pob oed) (1,064)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Moelfre) (544)
  
52.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Moelfre) (544)
  
51.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Moelfre) (237)
  
48.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.