Capel Coch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ysgol Tŷ Mawr, Capel Coch.

Pentref bychan yng nghanolbarth Ynys Môn yw Capel Coch. Saif ar ffordd gefn, i'r gogledd o dref Llangefni ac i'r gorllewin o Benllech, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd.

Ceir ysgol gynradd yno, Ysgol Tŷ Mawr, yr ysgol leiaf ym Môn. Ceir hefyd weddillion hen felin wynt, Melin Llidiart. Fymryn i'r dwyrain o'r pentref mae Cors Erddreiniog, sy'n Warchodfa Natur Genedlaethol.

Ar gwr Capel Coch, wedi ei ymgorffori mewn wal ar ymyl y ffordd ar ôl i'r lôn gael ei lledu rhai blynyddoedd yn ôl, ceir maen hir Maen Addwyn.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer