Llanbedrgoch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Pedr.

Mae Llanbedrgoch (hefyd Llanbedr-goch) yn bentref a phlwyf eglwysig yn ne-ddwyrain Ynys Môn. Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A5025 rhwng Pentraeth a Benllech.

Hanes[golygu]

Roedd dau enw amgen ar y pentref a'r plwyf yn y gorffennol, pan fu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, sef:

  • Llanfair Mathafarn Wion. Enw'r plwyf, ar ôl treflan ganoloesol Mathafarn Wion (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a Llanfair Mathafarn Eithaf). Enw arall ar Fathafarn Wion oedd Mathafarn Fechan. Pennaeth lleol oedd Gwion; ceir Croes Wion ger Benllech.[1]
  • Llanfeistr. Enw personol yw 'Meistr' yn yr achos yma.[1]
Pwysau metal a adawyd yn yr ardal gan y Llychlynwyr.

Gwnaed darganfyddiad diddorol yma yn 1994, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10fed ganrif. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1999 gerllaw'r pentref. Ychydig i'r gogledd-orllewin mae gwarchodfa natur Cors Goch.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Redknap, Mark Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol (Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2000) ISBN 072000487x

Dolen allanol[golygu]