Llandyfrydog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Tyfrydog Sant, Llandyfrydog.

Plwyf a phentre bychan yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn yw Llandyfrydog. Gorwedd tua 5 milltir i'r gorllewin o Foelfre a thua 2 filltir i'r dwyrain o Lannerch-y-medd.

Enwir Llandyfrydog ar ôl Sant Tyfrydog (diwedd y 6ed ganrif?). Ger Clorach, ceir y maen hir Carreg Leidr, a enwir felly am fod dyn a ladratodd Feibl yr eglwys wedi cael ei droi'n garreg am ei gamwedd, yn ôl y chwedl. Bob Nos Nadolig mae'r maen yn fod i symud o amgylch yr eglwys deirgwaith. Hanner milltir i'r gogledd o'r eglwys ceir cromlech Maen Chwyf.[1]

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai plwyf Llandyfrydog yng nghwmwd Twrcelyn. Yn ail hanner y 14eg ganrif, roedd gan y bardd Gwilym ap Sefnyn, mab y bardd Sefnyn, gyfran o dir yn Llandyfrydog (brodor o Lanbabo, 4 milltir i'r gorllewin, oedd ei dad, yn ôl pob tebyg).

Ganed Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn) yn ei gartref yn Llwydiarth Esgob, Llandyfrydog yn 1693. Roedd yn aelod amlwg o gylch Morysiaid Môn.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).