Niwbwrch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Niwbwrch
Ynys Môn
CymruMon.png
Smotyn Coch.gif
Niwbwrch gydag Eryri yn y cefndir

Mae Niwbwrch (Newborough yn Saesneg) yn dref yn ne Ynys Môn. Saif ar lôn yr A4080 rhwng Porthaethwy ac Aberffraw yng nghwmwd Rhosyr - sef yr hen enw Cymraeg.

Cynnwys

Yr eglwys [golygu]

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Bedr a Phaul, yn hen. Adeilad â chorff hir a chul ydyw, a godwyd yn y 14eg ganrif ar safle hŷn. Mae'r bedyddfaen hefyd yn dyddio o'r 12fed ganrif ac o waith Cymreig lleol. Ychwanegwyd porth i'r eglwys yn y 15fed ganrif. Ceir dau feddfaen hynafol yno, un ohonyn nhw gyda cherfwaith blodeuog a'r llall gyda'r arysgrif Hic jacet Dns Mathevs ap Ely arno ('Yma mae'r Arglwydd Mathew ap Eli yn gorffwys').

Hanes [golygu]

Creuwyd y fwrdeistref newydd (ystyr llythrennol 'Niwbwrch') ar ddiwedd y 13eg ganrif ar gyfer y Cymry a orfodwyd i ymadael â Llan-faes gan y Saeson. Cyn hynny roedd treflan fach yno ger Llys Rhosyr, un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd yn Oes y Tywysogion. Rhosyr oedd enw'r cantref hefyd.

Ar ganol y 14eg ganrif ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Niwbwrch a chanodd gywydd i foli'r dref a'i drigolion. Dyma'r llinellau agoriadol:

Hawddamawr, mireinmawr maith,
Tref Niwbwrch, trefn iawn gobaith,
A'i glwysdeg deml a'i glasdyr,
A'i gwin a'i gwerin a'i gwŷr,
A'i chwrw a'i medd a'i chariad,
A'i dynion rhwydd a'i da'n rhad.[1]

Atyniadau [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 134.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato