Llys Rhosyr

Oddi ar Wicipedia
Llys Rhosyr
Mathsafle archaeolegol, palas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.161922°N 4.365802°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN129 Edit this on Wikidata

Cynhelid un o lysoedd pwysicaf Twysogion Gwynedd yn Llys Rhosyr, ger pentref Niwbwrch yn ne-orllewin Môn heddiw. Dyma maenor Cantref Rhosyr, i'r de o gantref brenhinol Aberffraw.

Fel pob maenor cwmwd a chantref arall yn y deyrnas byddai Rhosyr a'i swyddogion wastad yn barod i groesawu ymweliad gan y tywysog a'i lys pan âi ar ei gylchdaith yng Ngwynedd. Roedd y llys ei hun ynghanol maerdref fach yng nghwmwd Menai oedd yn ei chynnal ar ran y tywysog.

Llys Rhosyr ym Medi 1995 wrth i sylfeini'r adeiladau ddechrau dod i'r golwg

Yn 1992 dechreuodd Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd gloddio ar y safle ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1995. Llys Rhosyr yw'r unig safle o'i fath sydd wedi'i gloddio hyd yn hyn. Erbyn heddiw mae olion tua chwarter y muriau yn y golwg, yn cynnwys y prif fur amgylchynnol a sylfeini a muriau isaf tri adeilad mawr. Tybir fod y mwyaf o'r rhain yn gartref i'r llys ei hun a bod adeilad cyfagos yn ystafell neu ystafelloedd frenhinol. Byddai disgwyl i un o'r stafelloedd gael ei ddefnyddio fel trysordy lleol yn ogystal. Cafwyd hyd i nifer o wrthrychau archaeolegol, gan gynnwys crochenwaith a darnau arian bath.

Cafodd y llys ei esguleuso ar ôl goresgyniad Gwynedd gan Edward I, brenin Lloegr, ym 1282. Symudwyd Cymry lleol o ardal Llan-faes i fwrdeistref newydd Niwbwrch ond mae tynged y llys yn y cyfnod hwnnw yn anhysbys. Gwyddom fod y Saeson wedi dinistrio llys Aberffraw a safleoedd eraill. Yng ngaeaf 1330 claddwyd y safle dan dywod yn ystod storm ofnadwy a laddodd dros gant o drigolion Niwbwrch.

Mae'r safle archaeolegol ar agor trwy'r amser a cheir arddangosfa yn y pentre yn ogystal.

Ailadeiladu[golygu | golygu cod]

Agorwyd ailadeiladu'r neuadd y llys yn yr Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn Hydref 2018.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Neil Johnstone, 'Cae Llys, Rhosyr: A Court of the Princes of Gwynedd', Studia Celtica Cyf. 33 (1999), t.251-295
  • eto, 'Llys Rhosyr, Anglesey' Current Archaeology Cyf. 150 (1996)
  • eto, 'Welsh royal court found in sand' British Archaeology Cyf, 18 (1996)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sain Ffagan: 'Nabod y bobl // St Fagans: A day at the Museum". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 21 Awst 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]