Y Fali
Oddi ar Wicipedia
| Y Fali Ynys Môn |
|
Mae Y Fali yn bentref yng ngorllewin Ynys Môn, ar yr A5 yn agos at Ynys Cybi. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru.
Mae peth drafodaeth wedi bod ynglyn â tharddiad yr enw. Yn ôl rhai, mae'r gwraidd yn y Gwyddeleg Baile, anheddiad, yn hytrach na'r gair Saesneg, Valley. Dywed Gwilym T. Jones a Tomos Roberts [1] fel arall, sef bod y gair yn dod o'r amser pan gloddiwyd pant er mwyn cael rwbel i adeiladu Pont Lasinwen, neu Morglawdd Stanley, rhan o'r A5 presennol. Roedd y pant a ffurfiwyd wedi cael yr enw Valley, a drosglwyddwyd i'r pentref.
Defnyddir y ffurf Y Dyffryn yn ogystal â Y Fali heddiw.
Yn agos i'r pentref mae gorsaf yr Awyrlu, RAF Valley: yno y lleolir Maes Awyr Môn hefyd. Wrth adeiladu maes awyr yr Awyrlu yn 1942, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o gelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach gerllaw.
[golygu] Cysylltiadau Allanol
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Enwau Lleoedd Môn 1996, Cyngor Sir Ynys Môn ISBN 0-904567-71-0
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachreth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llanynghenedl · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Niwbwrch · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Trearddur · Trefor · Tregele
