Llanfaelog

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfaelog. Saif ar y briffordd A4080, ychydig i'r dwyrain o bentref Rhosneigr a gerllaw Llyn Maelog.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Maelog, sant o tua'r 6ed ganrif. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1848-9, i gynllun gan Henry Kennedy. Mae gorsaf rheilffordd Tŷ Croes gerllaw, a rhyw filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref mae siambr gladdu Neolithig Tŷ Newydd.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato