Llanedwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanedwen o'r Felinheli, dros y Fenai.

Plwyf yn ne-orllewin Ynys Môn yw Llanedwen. Mae'n gasgliad o ychydig o dai ac eglwys (yn hytrach na phentref) a hynny gerllaw Afon Menai.

Saif yr eglwys ar ei phen ei hun yng nghanol caeau, ac mae'n nodedig o ran ei bod yn cael ei goleuo a chanhwyllau yn unig. Ail-adeiladwyd yr eglwys yng nghanol y 19eg ganrif, gan ddefnyddio rhan o adeiladwaith yr hen eglwys. Mae Plas Newydd gerllaw, a cheir beddau sawl aelod o deulu Ardalydd Môn yn y fynwent; ceir hefyd fedd yr hynafiaethydd Henry Rowlands, awdur Mona Antiqua Restaurata, a aned yn y plwyf.