Llanfair-yng-Nghornwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys y Santes Fair, Llanfair-yng-Nghornwy.
Maen hir Pen yr Orsedd.

Mae Llanfair-yng-Nghornwy (weithiau Llanfairyngnghornwy) yn bentref bychan a phlwyf eglwysig yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Saif i'r gogledd-orllewin o'r briffordd A5025 rhwng Llanrhyddlad a Cemaes. Mae Trwyn y Gadair (Saesneg: Carmel Head) gerllaw.

Mae’n bosibl bod yr enw "Cornwy" yn dod oddi wrth lwyth Celtaidd y Cornovii. Cofnodir y llwyth yma yng nghanolbarth Lloegr, ond mae awgrym hefyd fod llwyth o'r un enw yn Iwerddon.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i'r Santes Fair. Ceir sawl heneb yn y plwyf, yn cynnwys meini hirion fel y rhai yn Llwyn Ysgaw a Pen yr Orsedd. I'r de o'r pentref ceir bryn 170m Mynydd y Garn.

Pobl o Lanfair-yng-Nghornwy[golygu]


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato