Cornovii

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaeth y Cornovii ar fap o Gymru a Lloegr.

Grŵp o bobl Celtaidd yn byw yn rhan orllewinol yr hyn sydd erbyn heddiw yn ganolbarth Lloegr oedd y Cornovii. Efallai fod cysylltiad rhwng yr enw a'r gair "corn" yn Gymraeg. Roeddynt yn byw yn bennaf yn ardaloedd Swydd Stafford, Swydd Amwythig a Swydd Gaer; efallai fod eu tiriogaethau hefyd yn cynnwys ychydig o ddwyrain Cymru a bod cysylltiad rhyngddynt â Phowys.

Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain, credir mai eu prif ganolfan oedd bryngaer gref Din Gwrygon (Saesneg: The Wrekin). Cyfeiria Ptolemi yn yr 2il ganrif at ddwy ganolfan oedd yn eiddo'r llwyth, Deva Victrix (Caer), a Viroconium Cornoviorum (Wroxeter), eu prifddinas yn y cyfnod Rhufeinig. Nid ymddengys fod cysylltiad rhyngddynt a'r Cornovii eraill oedd yn byw yng Nghernyw na'r rhai yng ngogledd yr Alban. Mae awgrym hefyd fod llwyth o'r un enw yn Iwerddon.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Margaret Gelling, The West Midlands in the Early Middle Ages (Gwasg Prifysgol Caerlyr, 1992)
  • Graham Webster, The Cornovii