Llansadwrn, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llansadwrn yn bentref yn ne-ddwyrain Ynys Môn, tua hanner y ffordd rhwng Pentraeth a Biwmares. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai. Er iddo gael ei eni yn Aberffraw, magwyd yr awdur William John Griffith (1875 - 1931) yn y pentref.

Eglwys Sadwrn Sant[golygu]

Eglwys Sadwrn Sant

Y prif adeilad o ddiddordeb yw eglwys y plwyf, a sefydlwyd gan Sadwrn, a elwir hefyd yn Sadwrn Farchog, yn y 6ed ganrif, er bod yr adeilad presennol yn llawer mwy diweddar. Tybir fod yr eglwys yn ganolfan i glas (cymuned neu fynachlog) ar y safle. Yn 1742 cafwyd hyd i garreg fedd yn y fynwent, sydd yn awr wedi ei gosod ym mur yr eglwys. Yn ôl Nash-Williams, mae’r arysgrif arni yn darllen:

HIC BEATUS (-) SATURNINUS SE(PULTUS) (I)ACIT ET SUA SA[NCTA] CONIU(N)X PA(X) (VOBISCUM SIT)

Gellir ei gyfieithu fel:

Yma y claddwyd y bendigaid Saturninus a’i wraig sanctaidd. Boed heddwch iddynt.

Roedd Sadwrn yn frawd i Illtud, a fu farw rhwng 527 a 537, felly gellir dyddio’r garreg tua 530 O.C..

Llyfryddiaeth[golygu]

Nash-Williams, V.E. (1950) The early Christian monuments of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)