Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin yw Llansadwrn. Fe'i lleolir yng nghefngwlad Dyffryn Tywi tua hanner ffordd rhwng Llanymddyfri i'r gogledd-ddwyrain a Llandeilo i'r de-orllewin. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y sant cynnar Sadwrn (fl. tua 460).

Pedair milltir i'r gorllewin o'r pentref ceir adfeilion Abaty Talyllychau. Roedd yr uchelwr grymus Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356) yn frodor o Lansadwrn. Roedd ganddo blasdy ac ystad yn Abermarlais, o fewn y plwyf.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato