Pentrecwrt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Pentrecwrt (neu Pentre-cwrt). Fe'i lleolir ar y ffordd A486 tua hanner ffordd rhwng Ceinewydd i'r gogledd a Chaerfyrddin i'r de, dwy filltir i'r de-orllewin o bentref Llandysul.

Y felin wlan ym Mhentrecwrt

Ganed y llenor adnabyddus T. Llew Jones yn y pentref yn 1915. Tua milltir o sgwâr y pentref, lleolir Cwm Alltcafan lle'r arferai melin wlan fodoli. Ysgrifennodd T. LLew Jones gerdd am Gwm Alltcafan hefyd.

Pregethodd y Bedyddiwr enwog, Christmas Evans, ei bregeth gyntaf yn y pentref hwn.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato