Maes-y-bont

Oddi ar Wicipedia
Maes-y-bont
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8298°N 4.0819°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Maes-y-bont (hefyd: Maesybont). Fe'i lleolir ar groesffordd wledig yn nwyrain canolbarth y sir tua 3 milltir i'r gogledd o bentref Cross Hands. Y pentref agosaf yw Penrhiw-goch, tua milltir a hanner i'r gogledd.

Ceir peth o hanes hen ysgol gynradd y pentref ganol yr 20g yn llyfr Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár, cyfrol yn y gyfres Crwydro Cymru.[1]

Llai na milltir i'r de o Faes-y-bont ceir Llyn Llech Owain, a gysylltir â chwedl werin adnabyddus am Owain ab Urien, mab y brenin Urien Rheged o'r Hen Ogledd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Llandybie, 1977), tud. 65-69.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato