Llanegwad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanegwad. Saif y pentref ar y briffordd A40 yn yr ongl a ffurfir lle mae Afon Cothi yn ymuno ag Afon Tywi, tua hanner y ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Dyddia'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Egwad, i 1849, ond mae bellach wedi cau.

Heblaw pentref Llanegwad ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys Nantgaredig, Pontargothi, Cwrt-henri, a Felingwm. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 1,388 gyda 76.18% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cysylltiad allanol [golygu]

  • Ystadegau 2001 ar gyfer cymuned Llanegwad, o safle we Cyngor Sir Gâr