Llanwrda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref, plwyf a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanwrda. Saif y pentref ger cyffordd y briffordd A40 a'r A482, tua hanner y ffordd rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, ger glan Afon Dulais, sy'n ymuno ag Afon Tywi ychydig i'r de-ddwyrain o'r pentref. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.

Heblaw pentref Llanwrda ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Porth-y-rhyd. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 513 gyda 66.47% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cysylltiad allanol [golygu]

  • Ystadegau 2001 ar gyfer cymuned Llanwrda, o safle we Cyngor Sir Gâr