Castellnewydd Emlyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°02′N 4°28′W / 52.04°N 4.47°W / 52.04; -4.47

Castellnewydd Emlyn
Saesneg: Newcastle Emlyn
Newcastle Emlyn-panorama.jpg
Yr olygfa o Ddyffryn Teifi i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn.
Castellnewydd Emlyn is located in Sir Gaerfyrddin
Castellnewydd Emlyn

 Castellnewydd Emlyn yn: Sir Gaerfyrddin
Poblogaeth 941 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SN305405
Prif ardal Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost CASTELLNEWYDD EMLYN
Rhanbarth cod post SA38
Cod deialu 01239
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Cynulliad Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Tref farchnad yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn[1] (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd). Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Y castell
Llun manwl
Tîm criced Castellnewydd Emlyn yn 1893. Ffotograff o gasgliad John Thomas.

Safai Castellnewydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym Mrut y Tywysogion ym 1215 pan gipwyd hi gan Llywelyn ap Iorwerth[2].

Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188.

Bellach, mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur.

Cyfleusterau ac atyniadau [golygu]

Yn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd (Ysgol Gyfun Emlyn). Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru a Rheilffordd Dyffryn Teifi gerllaw.

Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri Saputo sy'n cynhyrchu caws Mozzarella. Maen nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.

Y Gymraeg [golygu]

Hyd at y 1960au, yr oedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castellnewydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiadau sylweddol o bobl o'r tu allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi newid o ganlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).

Gwiber Castellnewydd Emlyn [golygu]

Mae chwedl Gwiber Castellnewydd Emlyn yn adrodd hanes gwiber ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i'r Afon Teifi a cheisio saethu'r Wiber mewn rhan gwan o'i gorff. Disgynnodd y Wiber i'r afon wedi iddo gael ei saethu, gwenwynwyd yr afon gan y corff a lladdwyd yr holl bysgod.[3]

Enwogion [golygu]

Ffynonellau [golygu]

  1. Dau air yn ôl [Dictionary of Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan]
  2. The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines and Peredur Lynch (2008) pg609 ISBN 9780708319536
  3. Newcasle Emlyn Millennium Edition Historical Notes About Our Town pp10, Pamela Jenkins (1999) Castle Publications

Dolenni allanol [golygu]