Emlyn (cantref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd Emlyn yn gantref yng ngogledd teyrnas Dyfed. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae ei statws cynnar yn ansicr ac mae'n bosibl ei bod yn enghraifft o gwmwd annibynnol a ddaeth yn gantref yn ddiweddarach.

Lleolir Emlyn i'r de o afon Teifi yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref Is Aeron, i'r dwyrain mae'n ffinio â'r Cantref Mawr, i'r de â chwmwd Elfed, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.

Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd gydag afon Cuch yn eu gwahanu:

Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf y cantref. Mae ei ganolfan wleidyddol cynnar yn anhysbys. Yn ddiweddarach tyfodd Castellnewydd Emlyn yn ganolfan bwysig yng nghyfnod y Normaniaid.

Cysylltir y cantref â'r Mabinogi : mae Glyn Cuch, lle mae Pwyll yn cwrdd ag Arawn brenin Annwn, yn gorwedd yng nghwmwd Emlyn Is Cuch.

Gweler hefyd[golygu]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.