Emlyn Is Cuch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o Sir Benfro yn dangos lleoliad Emlyn Is Cuch

Yr oedd cwmwd Emlyn Is Cuch yn un o ddau gwmwd yng nghantref Emlyn, yn ne-orllewin Cymru. Heddiw mae ei diriogaeth yn gorwedd yn Sir Benfro. Roedd yn gwmwd o fryniau isel, coedwigoedd a chymoedd.

Roedd afon Cuch yn dynodi'r ffin rhwng Emlyn Is Cuch a'r ail gwmwd, Emlyn Uwch Cuch. I'r gogledd ffiniai Emlyn Is Cuch â chwmwd Is Coed, cantref Is Aeron, gydag afon Teifi yn ffin naturiol rhyngddynt. I'r de ffiniai â chwmwd Elfed, cantref Gwarthaf, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.

Ni wyddys nemor ddim am hanes cynnar y cwmwd. Ar y dechrau bu'n rhan o deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth. Fe'i meddianwyd gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif a daeth yn rhan o diriogaeth Normanaidd y De, a oedd yn estyniad o'r Mers. Codwyd Castell Cilgerran gan y Normaniaid yng ngogledd y cwmwd i warchod afon Teifi. Roedd y cwmwd yn cynnwys y plwyfi Bridell, Cilgerran, Clydau, Capel Colman, Llanfihangel Penbedw, Manordeifi a Penrydd, a rhan orllewinol Cilrhedyn[1]

Yn ddiweddarach creuwyd "cantref" (hundred) Cilgerran dan y Deddfau Uno yn 1536, seiliedig ar diriogaeth yr hen gantref. Fe'i rheolwyd o fwrdeistref ganoloesol Cilgerran.

Lleolir golygfa agoriadol Pedair Cainc y Mabinogi yn y cwmwd. Roedd llys Pwyll Pendefig Dyfed yn Arberth, cantref Penfro. Un diwrnod aeth allan i hela yng Nglyn Cuch lle cyfarfu Arawn brenin Annwn a chychwyn cylch chwedlau'r Pedair Cainc.

Mae'n debygol fod y bardd canoloesol Prydydd Breuan (fl. ganol y 14eg ganrif) yn frodor o'r cwmwd hwn.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Richards, Melville, Welsh Administrative and Territorial Units, UoW Press, 1969, p 66
  2. Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000).
  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)

Gweler hefyd[golygu]