Elfed (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Elfed.
Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Cwmwd yng Nghantref Gwarthaf, Dyfed, oedd Elfed. Bu'n rhan o hen deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth.

Gorweddai ar lannau gorllewinol Afon Gwili yng ngogledd-ddwyrain y cantref gan ffinio â chymydau Derllys, Ystlwyf a Peuliniog yn y cantref hwnnw, i'r de, a gydag Emlyn Is Cuch ac Emlyn Uwch Cuch i'r gogledd, a chymydau Mabudrud a Gwidigada yn y Cantref Mawr a chantref Chantref Cydweli i'r dwyrain. Ei ganolfan bwysicaf oedd Cynwyl Elfed.

Yn y drydedd ganrif ar ddeg fe'i cyplyswyd â Derllys a Gwidigada gan ffurfio felly ran bwysig o'r Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach.

Gweler hefyd[golygu]