Allen Raine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Nofelydd poblogaidd o Gymraes oedd Anne Adaliza Beynon Puddicombe (née Evans), neu Allen Raine (6 Hydref, 1836 - 21 Mehefin, 1908).[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ganed yr awdur yn nhref Castell Newydd Emlyn yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad (yn ŵyr i David Davies o Gastellhywel neu Dafis Castellhywel fel yr adnabyddid ef) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, Tresaith hyd at 1872.[2] Fe'i danfonwyd i fyw i Cheltenham a Wandsworth ac yna i Lundain gyda'i chwaer a dychwelodd yn ôl i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain i briodi'r banciwr (gyda Banc Smith Payne, Llundain) ac arlunydd[3] Beynon Puddicombe. Yno y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ol iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw Ynysoer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1894. Buont yn byw ym "Mronmôr", Tre-saith, Ceredigion hyd at ei marwolaeth.

Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: Torn Sails (1915), A Welsh Singer (1920) a By Berwen Banks (1920).

Roedd ganddi gysylltiadau â Sarah Jacobs y ferch a ymrydiodd o Llanfihangel ar Arth. Cafodd Anne ei chladdu ym mynwent eglwys plwyf Penbryn, ger Tre-saith, lle priododd; yn y pentref bychan lle treuliodd chwarter canrif olaf ei hoes.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ynysoer (stori arobryn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon; 1894). Newidiwyd yr enw pan gyhoeddwyd y gwaith ar ffurf nofel yn 1909 i Where Billows Roll.
  • A Welsh Singer (1896)
  • Torn Sails (1897)
  • By Berwen Banks (1899)
  • Garthowen (1900)
  • A Welsh Witch (1902)
  • On the Wings of the Wind (1903)
  • Hearts of Wales (1905)
  • Queen of the Rushes (1906)
  • Neither Storehouse nor Barn (1908)
  • All in a Month(short story collection; 1908)
  • Where Billows Roll (originally Ynysoer, Eisteddfod winner 1894) (1909)
  • Under the Thatch (1910)

Ffilmiau[golygu]

Torn Sails (1915), A Welsh Singer (yn serennu Florence Turner 1920) a By Berwen Banks (1920).

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]