Llanfihangel-ar-Arth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llanfihangel-ar-Arth yn bentref, cymuned ac yn blwyf eglwysig yn Sir Gaerfyrddin. Lleolir y pentref presennol o gwmpas cyffordd y B4336 rhwng Llanllwni a Llandysul o’r dwyrain i’r gorllewin a’r B4459 rhwng Capel Dewi i Bencader o’r gogledd i’r de. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd poblogaeth Plwyf Llanfihangel ar Arth (sy’n cynnwys pentrefi cyfagos) yn 2,727 gyda 50% yn wryw a 50% yn fenyw.

Y pentref[golygu]

Llanfihangel-ar-Arth yw’r pentref mwyaf gogleddol yn y gymuned, cyfagos i'r Afon Teifi. Mae ei enw yn dod o eglwys y plwyf, Sant Mihangel, a sefydlwyd yn y chweched ganrif, yn ôl pob tebyg.

Defnyddiwyd tolldy yn y pentref yn y degawd 1840-1850 i gasglu tollau o deithwyr a digwyddodd un o derfysgoedd Rebecca yno pan ddinistriwyd y glwyd gan 150 o bobl ym mis Mehefin, 1843. Adeilad un llawr oedd y tolldy a nawr defnyddir ef fel byngalo.

Âi'r rheilffordd o Gaerfyrddin i Lanbedr Pont Steffan drwy Lanfihangel a gafodd ei orsaf ei hun. Ond caewyd hi ar gyfer deithwyr yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Nawr dim ond rhan y trac sydd ar ôl. O’r 1840au i’r 1920au defnyddiwyd rhai o dai’r pentref fel gweithdai gwau pan oedd y diwydiant gwlân yn bwysig yn yr ardal.

Yn ogystal â’r eglwys, mae dau dafarn ac ysgol a agorywd yn 1864 ond caewyd yn 2003 ac nawr mae hi’n gwasanaethu fel canolfan gymunedol. Mai rhai busnesau bach yn y pentref ynghyd â storfa bwrdd trydan. Mae’r rhain yn ogystal ag amaethyddiaeth yn darparu cyflogaeth yn yr ardal. Mae gan y pentref garnifal blynyddol a chynhelir rhan o Ŵyl Bibau Pencader yn yr eglwys.

Mae pentref Llanfihangel ar Arth wedi newid llawer ers gau’r Ysgol yn 2003. Ers hynny mae’r siop bentref a’r Swyddfa Post wedi cau. Bellach, Neuadd yr Ysgol yw canolbwynt y pentref ac sy’n rhoi’r egni i gadw'r gymuned yn fyw.

Plwyf a chymuned[golygu]

Mae 6 pentref yn y plwyf:

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel-ar-Arth (pob oed) (2,213)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel-ar-Arth) (1,221)
  
57%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel-ar-Arth) (1427)
  
64.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfihangel-ar-Arth) (311)
  
33.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]