Caer Gwrtheyrn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o fur amddiffynnol Caer Gwrtheyrn

Bryngaer yw Caer Gwrtheyrn a leolir yn ne Ceredigion tua milltir i'r dwyrain o Landysul (cyfeiriad grid SN432403, map Landranger 146).[1]

Saif y fryngaer ar safle arbennig o gryf ar lan ddeheuol Afon Teifi, tua hanner ffordd rhwng Llandysul a Llanfihangel-ar-Arth. Mae'r gaer yn dyddio o Oes yr Haearn.

Ceir gwaith amddiffynnol o garreg yn amgylchynu pen yr allt gan wneud y gorau o rediad naturiol y tirwedd. Y tu allan i hyn ceir dau glawdd o bridd yn y gornel dde-orllewinol sy'n ffurfio math ar amddiffynfa allanol neu barbican i'r gaer. Yn amddiffyn yr amddiffynfa allanol hynny gosodwyd cerrig llym yn y tir i rwystro ymosodwyr, gwaith a adwaenir fel chevaux-de-frise.[2]

Gwrtheyrn [golygu]

Enwir y gaer ar ôl Gwrtheyrn (Vortimer), brenin chwedlonol neu led-hanesyddol y Brythoniaid a fu'n gyfrifol, yn ôl y chwedl, am adael y Sacsoniaid i mewn i Ynys Prydain.

Yn ôl yr Historia Brittonum, llyfr hanes o'r 9fed ganrif a briodolir i Nennius, ffoes y brenin Gwrtheyrn i rywle o'r enw "Craig Gwrtheyrn" ar ddiwedd ei yrfa. Cafodd ef a'i gwragedd eu llosgi'n fyw "am eu pechodau" gan dân o'r nefoedd "yng Nghraig Gwrtheyrn yng Ngogledd Cymru" ar ôl cael ei erlid yno gan Sant Garmon a weddiodd am dri diwrnod ar i Dduw dial arno am ei "gamweddau".[3] Er nad yw Caer Gwrtheyrn yng ngogledd Cymru, roedd y term 'Gogledd Cymru' yn gallu golygu Cymru mewn cyferbyniad i 'Orllewin Cymru', sef tiriogaeth Brythoniaid de-orllewin Prydain (Cernyw, Dyfnaint a Gwlad yr Haf), ac mae rhai ymchwilwyr wedi ceisio uniaethu Caer Gwrtheyrn a Chraig Gwrtheyrn.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Lleoliad Caer Gwrtheyrn (a ddynodir fel fort yn unig ar y map OS)
  2. Christpher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Faber, 1978), tud. 175.
  3. Nennius: British History and the Welsh Annals, gol. John Morris (Phillimore, 1980), tud. 33.

Dolenni allanol [golygu]


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer (Llanbedr-y-cennin) | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm