Pontyberem

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°47′00″N 4°10′00″W / 51.783333°N 4.166667°W / 51.783333; -4.166667

Pontyberem
Pontyberem.jpg
Pontyberem
Pontyberem is located in Sir Gaerfyrddin
Pontyberem

 Pontyberem yn: Sir Gaerfyrddin
Poblogaeth 2,829 
Cyfeirnod grid yr AO SN505115
Prif ardal Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANELLI
Rhanbarth cod post SA15
Cod deialu 01269
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Llanelli
Cynulliad Cymru Llanelli
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Ffurfiwyd plwyf newydd o'r enw Pontyberem yn 1919 yn dilyn tyfiant y dwydiant glo. Y pwll glo hynnaf oedd Glynhebog a chafwyd fod y glo o'r ansawdd gorau yn y byd.[1]

Pentref diwydiannol a chymuned yng Nghwm Gwendraeth Fawr yw Pontyberem. Mae ardal Cyngor Cymuned Pontyberem yn gartref i 2,800 o bobl ac yn cynnwys pentref Bancffosfelen, a leolir ar lethr dwyreiniol Mynydd Llangyndeyrn. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 81.28% (1961:91% :1991:80.5%) o'r boblogaeth yn meddu ar un neu fwy o sgiliau yn yr iaith Gymraeg, gyda 60.83% yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.[2]

Ganwyd y gantores boblogaidd, Dorothy Squires mewn gwersyll ar gyrion Pontyberem. Mae Gwenda Owen y gantores a enillodd yr Ŵyl Ban-Geltaidd i Gymru ym 1995 gyda Chân yr Ynys Werdd yn enedigol o'r pentref.

Ym Mhontyberem mae pencadlys Menter Cwm Gwendraeth, y fenter iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Cwm Gwendraeth a Llanelli Ann Gruffydd Rhys Gwasg Carreg Gwalch 2000
  2. Cyngor Sir Caerfyrddin http://www.carmarthenshire.gov.uk/index.asp?locID=4473&docID=-1


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato