Cross Hands

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Nghwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin yw Cross Hands. Ni ymddengys fod enw Cymraeg iddo.

Saif Cross Hands gerllaw cyffordd y priffyrdd A48 a'r A476, tua 12 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin ac i'r gogledd o Lanelli. Ceir parc busnes ar gyrion y pentref, ynghyd a gwasanaethau ar gyfer teithwyr ar yr A48. Yn ôl un stori, cafodd y pentref ei enw oherwydd mai yma y byddai swyddogion carchar yn cyfarfod i gyfnewid carcharorion rhwng carchardai Caerfyrddin ac Abertawe.

Yn weinyddol, mae Cross Hands yn rhan o ward Llannon, sydd hefyd yn cynnwys pentrefi Tymbl a Llannon.

Gerllaw ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.