Henllan Amgoed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen gapel Henllan Amgoed

Pentref bychan hanesyddol yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru, yw Henllan Amgoed. Mae yng nghymuned Henllan Fallteg.

Gorwedd y pentref ar lôn wledig tua 3 milltir i'r gogledd o'r Hendy-gwyn ar Daf.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n brif ganolfan eglwysig cwmwd Amgoed, un o wyth cwmwd Cantref Gwarthaf. Yn wreiddiol roedd y cwmwd yn rhan o deyrnas Dyfed, ond yn ddiweddarach daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth.

Bu Jeremy Owen (fl. 1704-1744), awdur Golwg ar y Beiau, yn weinidog Ymneilltuol yn Henllan Amgoed am gyfnod. Yn y llyfr hwnnw ceir ymateb Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn yr ardal a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18fed ganrif, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth.

CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato