Hendy-gwyn ar Daf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°49′05″N 4°36′40″W / 51.818°N 4.611°W / 51.818; -4.611

Hendy-gwyn ar Daf
Hendy-gwyn ar Daf is located in Sir Gaerfyrddin
Hendy-gwyn ar Daf

 Hendy-gwyn ar Daf yn: Sir Gaerfyrddin
Prif ardal Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Sir Gaerfyrddin
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Hendy-gwyn ar Daf
Cod deialu 01994
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Tref fechan hanesyddol yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yw'r Hendy-gwyn ar Daf (Saesneg: Whitland). Roedd yn adnabyddus yn yr Oesoedd Canol fel safle Y Tŷ Gwyn ar Daf, canolfan eglwysig a noddwyd gan dywysogion teyrnas Deheubarth.

Stryd Ioan yn Hendy-gwyn

Abaty'r Tŷ Gwyn ar Daf [golygu]

Sefydlwyd yr abaty enwog yma fel cangen Gymreig o abaty Clairvaux yn Ffrainc, un o abatai mawr y Sistersiaid, yn y flwyddyn 1140. Er mai sefydliad Normanaidd oedd yr abaty ar y dechrau, gyda'r mynachod wedi dod drosodd o Ffrainc, dan nawdd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth daeth yn sefydliad trwyadl Gymreig a fu'n gefnogol iawn i ymdrechion tywysogion Cymru i gadw annibyniaeth y wlad. Ond taliodd y pris am ei gefnogaeth yn 1257 pan gafodd ei anrheithio gan filwyr Seisnig a lladd llawer o'r brodyr. Claddwyd y bardd Dafydd Nanmor (fl. 1450-1480) ym mynwent y Tŷ Gwyn.

Dolenni allanol [golygu]


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato