Llansteffan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar Llansteffan o'r ochr arall i Afon Tywy

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llansteffan (amrywiad: Llanstephan). Mae'n gorwedd yn ne'r sir ar aber Afon Tywy, tua 7 milltir i'r de-orllewin o Gaerfyrddin.

Hanes [golygu]

Yn yr Oesoedd Canol bu Llansteffan yn arglwyddiaeth yn Nghantref Gwarthaf. Codwyd Castell Llansteffan yno gan y Normaniaid ar ddechrau'r 12fed ganrif i warchod y groesfan fferi strategol ar Afon Tywi. Cafodd ei godi ar safle bryngaer o Oes yr Haearn.

Enwogion [golygu]

Brodor o Lansteffan oedd y casglwr llawysgrifau Cymreig Syr John Williams. Enwir casgliad Llawysgrifau Llanstephan, a gasglwyd gan Syr John, ar ôl y pentref.

Gweler hefyd [golygu]