Pencader

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan gwledig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Pencader. Gorwedd ar groesffordd ar lôn y B4459, tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o Landysul ar lan un o ledneintiau llai Afon Teifi. Mae'n rhan o gymuned Llanfihangel-ar-Arth.

Hanes[golygu]

Roedd Pencader yn ganolfan cwmwd Mabudrud yn yr Oesoedd Canol. Mae'n enwog fel cartref yr "hen ŵr o Bencader" y dyfynnir ei ateb herfeiddiol i'r brenin Harri II o Loegr, pan ofynodd y brenin a allai oresgyn cenedl y Cymry, gan Gerallt Gymro ar ddiwedd ei lyfr Disgrifiad o Gymru:

Ei gorthrymu, yn wir, ac i raddau helaeth iawn ei distrywio a'i llesgáu trwy dy nerthoedd di, O frenin, ac eiddo eraill, yn awr megis gynt a llawer gwaith eto tan orfodaeth ei haeddiannau, a ellir i'r genedl hon. Yn llwyr, fodd bynnag, trwy ddogofaint dyn, oni bo hefyd ddigofaint Duw yn cydredeg ag ef, ni wneir ei dileu. Ac nid unrhyw genedl arall, fel y barnaf fi, amgen na hon o'r Cymry, nac unrhyw iaith arall, ar Ddydd y Farn dostlem gerbron y Barnwr Goruchaf, pa beth bynnag a ddigwyddo i'r gweddill mwyaf ohoni, a fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o'r ddaear.[1]

Ceir Castell Pencader, a godwyd gan y Normaniaid, ger y pentref. Ar fferm ger Pencader treuliodd Sarah Jacob (1857 - 1869), y Welsh Fasting Girl enwog, ei hoes fer.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), tt. 231-32.

Dolenni allanol[golygu]


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato