Harri II, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Harri II o Loegr)
Harri II, brenin Lloegr
Ganwyd5 Mawrth 1133 Edit this on Wikidata
Le Mans Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1189 Edit this on Wikidata
o clefyd y system gastroberfeddol Edit this on Wikidata
Castell Chinon Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, dug Normandi, brenin, dug Aquitaine, cownt Angyw, Arglwydd Iwerddon Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluYr Alban Edit this on Wikidata
TadGeoffrey Plantagenet Edit this on Wikidata
MamYr Ymerodres Matilda Edit this on Wikidata
PriodEleanor o Aquitaine Edit this on Wikidata
PartnerYkenai, Rosamund Clifford, Ida de Tosny, Alys Edit this on Wikidata
PlantGeoffrey, William IX, iarll Poitiers, Harri, y brenin ieuanc, Rhisiart I, brenin Lloegr, Geoffrey II, dug Llydaw, Matilda o Loegr, duges Saxony, Eleanor o Loegr, brenhines Castile, Joanna, John, brenin Lloegr, William Longespée, 3ydd iarll Salisbury, Morgan, Morgan o Beverley, Peter, merch D'anjou, Matilda o Barking, Hugh o Wells, Richard, Plentyn o Loegr Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Plantagenet, Angevins, Llinach Normandi Edit this on Wikidata

Harri II o Loegr (5 Mawrth 11336 Gorffennaf 1189) oedd brenin Lloegr o 25 Hydref 1154 hyd at ei farw.

Roedd yn fab i'r Ymerawdres Matilda a Geoffrey Plantagenet. Cafodd ei eni yn Anjou. Ei wraig oedd Eleanor o Aquitaine. Harri oedd tad y brenhinoedd Rhisiart I, brenin Lloegr a John, brenin Lloegr.

Derbyniodd ddugiaeth Normandi gan ei dad yn 1150, yna ar farwolaeth ei dad yn 1151, etifeddodd Anjou a Maine. Yn 1152 daeth yn ddug Aquitaine trwy briodi Eleanor o Aquitaine, yna yn 1154 etifeddodd goron Lloegr. Bu farw yn y Castell Chinon.

Llysenwau: "Curt Mantle", "Fitz Empress", "Y Llew Cyfiawnder".

Plant[golygu | golygu cod]

Cymru[golygu | golygu cod]

Ceisiodd Harri II oresgyn teyrnas Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 ac eto yn 1163 a 1165.

Yn 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw ymreolaeth y Gymru frodorol yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Ymgynullodd byddin yr Angefiniaid yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arhosai’r Cymry yr ochr arall i Fynydd y Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru. Roedd mintai o’r Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Angefiniaid gyrraedd naill ai Aberceiriog neu Ddyffryn Ceiriog, ymosodasant ar flaengad byddin yr Angefiniaid gyda nifer o ddewrion yn syrthio ar y ddwy ochr. Gellir cyfeirio at y rhagod fel Brwydr Coed Ceiriog. Yn bwysicach byth roedd y tywydd yn erbyn Harri. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben.

Rhagflaenydd:
Steffan
Brenin Lloegr
25 Hydref 11546 Gorffennaf 1189
Olynydd:
Rhisiart I


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.