Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Brenin Edward VIII

Edward VIII (Edward Albert Christian George Andrew Patrick David Wettin) (23 Mehefin 1894 - 28 Mai 1972) oedd brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon rhwng 20 Ionawr 1936 a 11 Rhagfyr 1936, dydd ei ymddiswyddiad.

Yn fab i Siôr V a Mair o Teck, ef oedd Tywysog Cymru rhwng 1911 a marwolaeth ei dad. Bu rhaid iddo ymddiswyddo am ei fod am briodi'r weddw o Americanes Wallis Warfield Simpson a oedd wedi cael ysgariad. Nid oedd y sefydiad Seisnig yn barod i gael brenin a oedd yn briod â rhywun oedd wedi cael ysgariad.

Wedi'r ymddiswyddiad, fe briododd yr Americanes gyfoethog Wallis Warfield Simpson ac fe adawodd y wlad a byw yn Ffrainc.

Rhagflaenydd:
Siôr V
Brenin y Deyrnas Unedig
20 Ionawr 193611 Rhagfyr 1936
Olynydd:
Siôr VI
Rhagflaenydd:
Y Tywysog Siôr
Tywysog Cymru
23 Mehefin 191020 Ionawr 1936
Olynydd:
Y Tywysog Siarl


Brenhinoedd a breninesau Prydain Fawr a'r Deyrnas Unedig

Teyrnas Prydain Fawr: Anne | Siôr I | Siôr II | Siôr III
Y Deyrnas Unedig: Siôr III | Siôr IV | Gwilym IV | Victoria |
Edward VII | Siôr V | Edward VIII | Siôr VI | Elisabeth II



Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.