Wallis Simpson
| Wallis, Duges Windsor | |
|---|---|
Wallis Simpson ym 1936 |
|
| Ganwyd | Bessie Wallis Warfield 19 Mehefin 1896 |
| Bu farw | 24 Ebrill 1986 (89 oed) Bois de Boulogne, Paris |
| Man claddu | Frogmore, Windsor |
| Galwedigaeth | Cymdeithaswraig |
| Priod | Tywysog Edward, Dug Windsor |
Cymdeithaswraig Americanaidd oedd Wallis, Duges Windsor (gynt Simpson, gynt Spencer, née Bessie Wallis Warfield, 19 Mehefin 1896 – 24 Ebrill 1986), a gymerodd y Tywysog Edward, Dug Windsor (brenin y Deyrnas Unedig gynt) fel ei trydydd gŵr.
Bu farw tad Wallisyn fuan wedi ei geni, a cafodd Wallis a'i mham gweddu eu cefnogi'n ariannol yn rhannol gan eu perthnasau a oedd yn gyfoethogach. Ysgarodd o'i phriodas cyntaf i swyddog forlu'r Unol Daleithiau wedi treulio nifer o gyfnodau arwahan. Ym 1934, yn ystod ei ail phriodas, honir iddo ddod yn feistres i Edward, Tywysog Cymru. Dyflwydd yn ddiweddarach, wedi i Edward esgyn i'r orsedd yn Frenin, ysgarodd Wallis ei ail gŵr a gofynodd Edward iddi ei briodi.
Achosodd ewyllys y Brenin i brodi Americanes a oedd wedi ysgaru ddwywaith argyfwng cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig a'r Dominiwn, a arweiniodd yn y pen draw at y Brenin i ildio'r goron ym mis Rhagfyr 1936 er mwyn gallu priodi "the woman I love".[1] Wedi iddo ildio'r goron, cafodd Edward ei greu'n Ddug Windsor gan ei frawd Siôr VI. Priododd Edward a Wallis chwe mis yn ddiweddarach, ac adnabyddwyd Wallis yn swyddogol fel Dugies Windsor on heb y steil "Ei Mawrhydi".
Cyn, yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafodd y Dug a'r Dugies eu cyhuddo o gydymdeimlo gyda'r Natsiaid gan nifer o bol yn y llywodraeth a'r gymdeithas. Yn ystod yr 1950au a'r 1960au, bu'r ddau'n teithio'n nôl a blaen rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau, yn byw bywyd hamddenol fel enwogion cymdeithasol. Wedi marwolaeth y Dug ym 1972, bu'r Dugies yn byw'n unig ac i ffwrdd o lygad y cyhoedd. Bu ei bywyd preifat yn bwnc dyfaliadau a dadleuol yn gyhoeddus.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Dug Windsor (1951). A King's Story. Llundain: Cassell and Co Ltd, tud. 413