Mayfair

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal yng nghanol Llundain, prifddinas Lloegr, yw Mayfair, a leolir yn Ninas San Steffan.

Hanes[golygu]

Enwir Mayfair ar ôl gŵyl flynyddol May Fair a barhaodd bythefnos, a gynhaliwyd o 1686 ar safle Shepherd Market heddiw, hyd iddo gael ei wahardd yno ym 1764. Hyd 1686, cynhaliwyd y May Fair yn Haymarket, ac ar ôl 1764, symudwyd i Fair Field yn Bow gan fod y trigolion a oedd yn weddol gyfoethog yn teimlo fod y ffair yn 'tynnu tôn y lle i lawr'.[1]

Mae Mayfair yn ffinio â Hyde Park i'r gorllewin, Oxford Street i'r gogledd, Piccadilly a Green Park i'r de a Regent Street i'r dwyrain. Datblygwyd y rhan helaeth o'r ardal rhwng canol yr 17eg ganrif a chanol yr 18fed ganrif, fel ardal breswyl ffasiynol, gan nifer o berchnogion, y pwysicaf o'r rhain oedd y teulu Grosvenor. Prynodd y teulu Rothschild rannau mawr o Mayfair yn ystod yr 19eg ganrif. Mae rhydd-ddaliad rhan helaeth o Mayfair yn eiddo i Ystad y Goron.

Masnachol yw'r ardal yn bennaf erbyn hyn, gyda swyddfeydd mewn tai sydd wedi cael eu haddasu ac adeiladau newydd.

Mae adnabyddiaeth a bri Mayfair wedi tyfu oherwydd ei ddynodiad fel yr eiddo drytaf yn y set Brydeinig o'r gêm Monopoly.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]