Oxford Street

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bysiau ar Oxford Street

Stryd bwysig yn Ninas San Steffan, Llundain yw Oxford Street, ac un o brif ardaloedd siopa Ewrop. Mae pedair gorsaf tiwb ynddi: Tottenham Court Road ar y pen dwyreiniol, Oxford Circus a Bond Street yn y canol, ac i'r gorllewin mae Marble Arch, ger Hyde Park. Mae'r holl orsafoedd hynny ar y Central Line ond mae leiniau arall yn ei chroesi hefyd. Mae pen dwyreiniol y stryd ar gau i gerbydau (modur) preifat - caniatir i ddim ond bysiau, tacsis a beicau ei defnyddio hi. Mae tua 300 siopau ar y stryd. Roedd y stryd yn rhan o'r ffordd fawr o Lundain i Rydychen - roedd hi'n dechrau yn Newgate, Dinas Llundain.