Soho, Llundain
Oddi ar Wicipedia
Ardal yn Llundain yw Soho, wedi ei lleoli yn y West End yn Ninas San Steffan. Ardal adloniant ydyw ac am gyfnod helaeth o ail hanner yr ugeinfed ganrif roedd yr ardal yn adnabyddus am ei siopau rhyw, am ei bod yn ardal golau coch, yn ogystal â'i bywyd nos a diwydiant ffilm. Ers dechrau'r 1980au mae'r ardal wedi cael ei gweddnewid ac mae bellach yn ardal ffasiynol yn llawn tai bwyta moethus a swyddfeydd y cyfryngau.