Baltimore, Maryland

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardal downtown Baltimore.
Gweler hefyd: Baltimore (gwahaniaethu).

Dinas ym Maryland, Unol Daleithiau America yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.

Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.

Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.

[golygu] Gefeillddinasoedd

[golygu] Dolenni allanol

Flag USA template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill