Myddfai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardal Mynydd Myddfai- Sir Gâr

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Myddfai. Saif ar odre gogleddol y Mynydd Du ac ychydig i'r de o dref Llanymddyfri, gyda Mynydd Myddfai i'r dwyrain.

Yn yr Oesoedd Canol roedd Myddfai yn un o faenorau y Cantref Bychan ac yn ddiweddarach yn rhan o Arglwyddiaeth Llanymddyfri.

Daeth y pentref yn enwog fel cartref Meddygon Myddfai, a gysylltir â chwedl Llyn y Fan Fach. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Mihangel, ac mae Morgan Owen, Esgob Llandaf yn y 17eg ganrif, oedd yn frodor o'r pentref, wedi ei gladdu o'i mewn.

Yn 2007 adroddwyd bod y Tywysog Siarl wedi prynu tŷ Llwynywermwd gerllaw. Cafwyd cryn feirniadu ar ei fwriad i osod y tŷ fel cartref gwyliau.

Dolenni allanol [golygu]


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato