Ffarmers

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Sir Gaerfyrddin ger Llanbedr Pont Steffan ydy Ffarmers. Cafodd ei enwi ar ôl tafarn y "Farmers' Arms", ond mae'r dafarn ei hun wedi cau ers blynyddoedd. Mae'r pentref ar hen ffordd rhufeinig (o'r enw Sarn Helen), ac roedd pobl yn pasio trwy'r pentref wrth fynd â'u gwartheg i farchnadoedd Lloegr.

Mae'r afonydd bychain Afon Twrch ac Afon Fanafas yn llifo ger y pentref, tuag at y de, ac yn ymuno ag Afon Tywi rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin.

Dolenni allanol[golygu]