New Inn, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°00′31″N 4°13′37″W / 52.008549°N 4.227055°W / 52.008549; -4.227055

New Inn, Sir Gaerfyrddin
New Inn Carmarthenshire.jpg
Yr adeilad ysgol
New Inn is located in Sir Gaerfyrddin
New Inn

New Inn Sir Gaerfyrddin
Poblogaeth 348 [1]
Sir Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Sir Gaerfyrddin
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost PENCADER
Cod deialu 01559
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw New Inn (ymddengys nad oes enw Cymraeg arno). Fe'i lleolir yng ngogledd canolbarth y sir ar y ffordd A485 tua 12 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin, hanner ffordd rhwng y dref honno a Llanbedr Pont Steffan. Yng Nghyfrifiad 2011, poblogaeth New Inn oedd 348.[1] Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanfihangel-ar-Arth.

Hanes[golygu]

Datblygodd y pentref ar groesffordd o ffordd Rufeinig Sarn Helen a llwybr pwysig (ffordd y porthmyn yn ddiweddar). Roedd y pentref yn ganolfan fasnachol erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda siop gyffredinol (oedd yn allforio meintiau enfawr o fenyn a pheth caws i ddociau Caerfyrddin), tair tafarn a gwesty pwysig The Traveller's Rest. Dirywiodd economi'r pentref yn dilyn agor rheilffordd ym mhentref cyfagos Pencader.[2]

Agorodd yr ysgol gymunedol yn y pentref yn 1881. Yn y degawd diwethaf bu gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion a gofrestrodd yn yr ysgol a cheuwyd yr ysgol yn 2007.[3]

Nawr mae’r pentref yn cynnwys capel, gwerthwr peiriannau amaethyddol, cwmni peirianneg, fferm laeth, a threfnydd teithiau.

Trafnidiaeth[golygu]

Lleolir y pentref ar y briffordd A485 sy'n ei gysylltu i'r trefi cyfagos o Gaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan. Mae nifer o lwybrau troed cyhoeddus sy'n ei gysylltu i'r trefi cyfagos o Wyddgrug a Phencader.

Mae'r gwasanaeth bws TrawsCymru T1, sy'n dechrau yn Llambed a diwedd yng Nghaerfyrddin yn stopio bob awr yn y pentref. Mae'r bws 701, sy'n ddiwedd yng Nghaerdydd yn stopio bob dydd.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yn ôl y Cyfrifiad 2011, gall 212 o'r 316 preswylwyr (dros 3 oed) deall siarad Cymraeg llafar (63%). Dangosodd y cyfrifiad bod 195 preswylwyr (58%) yn gallu siarad Cymraeg. Y poblogaidd yn 2001 oedd 306, sy'n awgrymu cynnydd. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth New Inn (pob oed) (348)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (New Inn) (199)
  
57.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (New Inn) (228)
  
65.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (New Inn) (186)
  
71.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]