Llanedi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanedi. Saif ar lan orllewinol Afon Llwchwr a gerllaw'r draffordd M4, i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanelli. Dyddia'r eglwys bresennol, a gysegrwyd i'e Sanres Edi, o 1860, ond gall sylfaen y tŵr ddyddio o'r Canol Oesoedd. Bu'r Ficer Prichard yn dal y rheithoriaeth yn y 17eg ganrif.

Heblaw am bentref Llanedi ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys Fforest, Tŷ-croes a Hendy. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 5,195 gyda 68.74% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanedi (pob oed) (5,664)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanedi) (2,476)
  
45.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanedi) (4683)
  
82.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanedi) (833)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Cysylltiad allanol[golygu]

  • Ystadegau 2001 ar gyfer cymuned Llanedi, o safle we Cyngor Sir Gâr