Llangynog, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llangynog. Saif i'r dwyrain o Sanclêr ac i'r de o'r briffordd A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin.

Olion hynafol [golygu]

Ceir olion amaethu o Oes yr Haearn yn yr ardal, ac mae siambr gladdu Neolithig Twlc-y-filiast gerllaw. Cysegrir yr eglwys i Sant Cynog, a chredir fod y safle yn dyddio i'r 6ed ganrif.

Ceir cytiau caeëdig Eithin Mân gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato