Pen-bre

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref mawr yn Sir Gaerfyrddin yw Pen-bre (Saesneg: Pembrey). Saif ar lan Bae Caerfyrddin, ychydig i'r gorllewin o dref Porth Tywyn (Tywyn Bach), rhwng aber Afon Llwchwr ac aber Afon Gwendraeth.

Ceir nifer o fryngeiri o Oes yr Haearn gerllaw, a chafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig yn y pentref. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Illtud, a cheir twll enfawr o'i flaen lle'r arferid carcharu meddwyn lleol. Yn y cyfnod Normanaidd, roedd Pen-bre yn gartref i Arnold le Boteler, un o gyndadau'r Arlywydd George W. Bush a'r Arlywydd James Abram Garfield Arlywyddion o'r Unol Daleithiau. Yn ystod y ddau Ryfel Byd, adeiladwyd maes awyr yma - a ddefnyddir heddiw i rasio ceir. Mae'r traeth yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre, sydd hefyd yn cynnwys Twyni Pen-bre. Bu llawer o fwyngloddio ar Fynydd Penbre.

Daw'r "Bre" yn yr enw Pen-bre o'r hen air Celtaidd am garth. Ystyr cyfoes "Pen-bre" felly yw "pen y garth".[1]

Llongddrylliadau[golygu]

Gerllaw mae traeth Cefn Sidan, oedd yn enwog am longddrylliadau yn nyddiau'r llongau hwyliau. Yr enwocaf oedd llongddrylliad y llong La Jeune Emma yn 1828, pan foddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.

Ffynonellau[golygu]

  1.  Etymology Of British Place-names.

Gweler hefyd[golygu]

Cysylltiadau allanol[golygu]

Pen-bre a Phorth Tywyn