Llanfihangel Aberbythych

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanfihangel Aberbythych. Saif y pentref i'r de-orllewin o dref Llandeilo. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o 1849, i Sant Mihangel.

Heblaw pentref Llanfihangel Aberbythych, mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Carmel. Saif plasdy enwog y Gelli Aur, hen gartref teulu'r Fychaniaid, o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,241, gyda 66.33% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cysylltiad allanol [golygu]

  • Ystadegau 2001 ar gyfer cymuned Llanfihangel Aberbythych, o safle we Cyngor Sir Gâr