Mihangel

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Mihangel yn gorchfygu Satan, llun gan Raffaello Sanzio

Un o'r saith archangel yn y traddodiad Cristnogol yw Mihangel. Gyda Gabriel, Raphael, Uriel ac eraill, mae'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac yn barod i'w hanfon fel ei negesyddion i'r dynolryw. Gyda Gabriel mae'n gwarchod drysau eglwysi rhag y Diafol. Fe'i derbynnir hefyd fel un o'r angylion gan Iddewon a Mwslemiaid.

Cysegrwyd nifer fawr o eglwysi yng Nghymru i Fihangel; gweler Llanfihangel am restr o bentrefi, cymunedau a phlwyfi sy'n dwyn ei enw.

Mae'r Eglwys Gatholig a rhai eglwysi eraill yn ystyried fod Mihangel yn sant hefyd. Daeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Ef yw nawddsant dinas Brwsel a nawddsant nifer o alwedigaethau, yn cynnwys milwyr a phobwyr.

Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Coran i'r Proffwyd Mohamed.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol