Rhys Prichard

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Offeiriad a bardd Cymreig oedd Rhys Prichard, gelwir hefyd Y Ficer Prichard neu Yr Hen Ficer (1579? - Rhagfyr 1644).

Ei fywyd[golygu]

Ganed ef yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Nid oes sicrwydd ymhle y cafodd ei addysg gynnar, ond aeth i Goleg Iesu, Rhydychen tua 1597. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Ebrill 1602 ac ar 6 Awst gwnaeth Anthony Rudd, Esgob Tyddewi, ef yn ficer Llanymddyfri. Yn 1613 cafodd reithoraeth Llanedi yn ogystal. Yn 1614 daeth yn ganon yng Ngholeg Aberhonddu. Cymerodd radd M.A., ac yn 1626 daeth yn ganghellor Tyddewi, ac wedyn yn ganon. Bu farw yn 1644. Yn ôl traddodiad, claddwyd "Yr Hen Ficer" yn Eglwys Llandingad. Gorwedd yr eglwys ar gwr Llanymddyfri ar y ffordd sy'n rhedeg i lawr i Landeilo trwy Langadog. Dywedir y cafodd ei fedd ei olchi i ffwrdd pan orlifodd afon Tywi a difrodi rhan o'r eglwys.[1]

Cannwyll y Cymry[golygu]

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfr Canwyll y Cymry, casgliad o gerddi ar gyfer y werin yn argymell bywyd bucheddol, er enghraiift:

Ni cheir gweled mwy on hôl
nag ôl neidr ar y ddôl,
neu ôl llong aeth dros y tonnau,
neu ôl saeth mewn awyr denau.

Cyhoeddwyd y rhan gyntaf gan Stephen Hughes yn 1659, a'r ail ran tua dechrau 1660. Yn 1681 cyhoeddwyd argraffiad llawn o'i waith.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Rhys Prichard Canwyll y Cymru: Sef, Gwaith Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri, A brintiwyd or blaen yn bedair rhan wedi ei cyssylltu yn un Llyfr (1681)
  • D. Gwenallt. Jones Y Ficer Prichard a "Canwyll y Cymry" (Cwmni'r "Llan" a Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, [1946])
  • Siwan Non Richards Y Ficer Prichard (Cyfres Llên y llenor; Caernarfon : Gwasg Pantycelyn, 1994) ISBN 1874786321

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Cyfres Crwydro Cymru, 1970), tt. 195-6.

Dolenni allanol[golygu]