Parc Coetir y Mynydd Mawr

Oddi ar Wicipedia
Parc Coetir y Mynydd Mawr
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Rhan o Barc Coetir y Mynydd Mawr
Ardal picnic yn y Parc

Lleolir Parc Coetir y Mynydd Mawr rhwng pentrefi Dre-fach, Y Tymbl a Cross Hands yn rhan uchaf Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin.

Mae Parc Coetir y Mynydd Mawr yn cynnwys dros 108 hectar (270 erw) o dir cymysgryw gyda rhyw 36 hectar (90 erw) yn goetir conwydd a chollddail. Ceir canran o dir glaswelltog hefyd. Llifa Afon Gwendraeth Fawr ar hyd ei ffin ogleddol.[1]

Mae'r Parc yn cael ei redeg yn rhannol fel prosiect cymunedol gyda sawl grŵp o wirfoddolwyr o'r cymunedau lleol yn cynorthwyo i'w gynnal a'i ddatblygu. Bu rhan helaeth y parc yn dir diffaith gyda nifer o hen domenni sbwriel diwydiannol o gyn byllau'r ardal cyn i'r gwaith o'i glirio a gadael i natur gymryd drosodd eto ddechrau.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyngor Sir Gâr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-09. Cyrchwyd 2010-02-28.
  2. "Cyngor Sir Gâr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-13. Cyrchwyd 2010-02-28.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]