Christmas Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o bregethwyr mawr y Bedyddwyr oedd Christmas Evans (25 Rhagfyr 1766 - 19 Gorffennaf 1838). Cafodd ei eni mewn bwthyn bychan o'r enw Esgair Wen, yn Nyffryn Lynod nepell o bentref Tre-groes, plwyf Llandysul, Sir Gaerfyrddin.[1]

Roedd yn fab i Samuel a Joanna Evans. Crydd o Llangeler oedd ei dad ac er na chafodd Christmas addysg ffurfiol, dysgodd ddarllen yng nghapel Llwynrhydowen ac wedyn aeth i ysgol David Dafis yng Nghastellhywel. Symudodd i Ynys Môn yn 1791 a bu'n byw yno ac yn pregethu ledled yr ynys am 35 mlynedd.

Cyfansoddodd nifer o emynau adnabyddus, e.e. "Dwy fflam ar ben Calfaria" a "Rhwn sy'n gyrru'r mellt i hedeg".

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Shenton, Tim [2001]. "1", Christmas Evans - The life and times of the one-eyed preacher of Wales (Clawr caled) (yn Saesneg), Evangelical Press, tud. 44-45. ISBN 0-85234-483-X .

Llyfryddiaeth [golygu]

Ceir cofiannau iddo gan E.P. Hood (1881) a B.A. Ramsbottom (1985).

Cysylltiad allanol [golygu]