Abaty Talyllychau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tŵr Abaty Talyllychau

Mynachlog adfeiliedig tua milltir i'r gogledd o bentref Talyllychau, Sir Gaerfyrddin yw Abaty Talyllychau. Erys rhan o'r tŵr yn sefyll heddiw. Fe'i sefydlwyd fel mynachlog Bremonstratensaidd gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth rhwng 1184 a 1189. Heddiw mae yng ngofal Cadw.

Hanes[golygu]

Cafodd yr abaty ei sefydlu gan yr Arglwydd Rhys rywbryd yn ail hanner y 1180au. Dewiswyd lleoliad anghysbell a thawel yn y bryniau uwchben Dyffryn Tywi, priodol i urdd fynachaidd a rannai'r delfryd o fywyd syml a gosyngedig gydag Urdd y Sistersiaid. Dyma'r unig dŷ Premonstratensaidd yng Nghymru. Nid yw'n eglur pam y dewisodd Rhys roi tir iddynt, ond roedd yn adnabod rhai o arweinwyr yr urdd yn Lloegr ac mae'n bosibl eu bod wedu dylanwadu arno.

Roedd Abaty Talyllychau yn driw i achos y Cymry yn ystod rhyfeloedd annibyniaeth y drydedd ganif ar ddeg. Ym 1278 cafodd ei feddiannu gan Goron Lloegr. Ceisiodd y brenin Edward I, brenin Lloegr, roi mynachod Seisnig yn lle'r mynachod Cymreig. Rhoddwyd yr abaty yng ngofal Abaty Welbeck ar ôl i'r mynachod gael eu cyhuddo o ymddwyn yn anweddus.

Ychydig sy'n hysbys am hanes diweddarach yr abaty. Ym 1291 dim ond £62 oedd ei werth ac roedd mewn cyflwr bregus. Erbyn iddo gael ei ddiddymu ym 1535 roedd yn werth £153 ac roedd wyth canon yn byw yno.

Yr adeilad[golygu]

Cynllun o'r abaty

Lleolir yr adfeilion ger llynnoedd bach rhwng y bryniau. Dim ond yr eglwys a rhan o'r clwysty sy'n sefyll heddiw. Roedd yn adeilad uchelgeisiol a fuasai'n drawiadol iawn ar ei safle gwledig, gyda'r eglwys fawr a'i thri chapel ynghyd â thŵr a phresbyter. Hyd yr eglwys oedd 46m. Roedd llyn gerllaw ar gyfer cadw pysgod. Byddai'r rhan fwyaf o'r tir o amgylch yr adeilad yn nwylo'r abaty ar gyfer cadw defaid.

Mynediad a chadwraeth[golygu]

Mae'r hen abaty yn ngofal Cadw. Saif ger y B4302 tua 6 milltir o Landeilo a thua milltir i'r gogledd o Dalyllychau.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • (Saesneg) Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)
  • (Saesneg) J. Beverley Smith a B.H. St J. O'Neill, Talley Abbey (HMSO, Llundain, 1967)