Gwalchmai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr hen dolldy ar gyrion Gwalchmai
Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Gwalchmai (gwahaniaethu).

Pentref yng nghanol Ynys Môn yw Gwalchmai, a leolir ar hyd yr A5, tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llangefni (cyfeiriad grid SH399761).

Yn agos iddo mae Llyn Hendref a Chors Bodwrog. Gwalchmai yw'r pentref sydd agosaf i 'gae Primin' (Sioe Amaethyddol Môn). I'r dwyrain o'r pentref i gyfeiriad Bodffordd ceir llain lanio sy'n perthyn i RAF Valley.

C.P.D Gwalchmai yw'r tîm pêl-droed lleol, ac maent yn chwarae eu gemau cartref yn y stadiwm 'Burn-a-Ball' ym Maes Meurig.

Trewalchmai[golygu]

Mae'n bosibl fod enw'r bardd Gwalchmai ap Meilyr yn cael ei goffháu yn enw'r pentref. 'Trewalchmai' oedd yr hen enw, sy'n cofnodi'r ffaith fod y dreflan a'i thir wedi cael ei rhoi i'r bardd am ei wasanaeth i'r tywysog Owain Gwynedd. Gelwir y gymuned y mae Gwalchmai yn ganolfan iddi yn Drewalchmai.[1]

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gwalchmai (pob oed) (1,009)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gwalchmai) (714)
  
72.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gwalchmai) (753)
  
74.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Gwalchmai) (156)
  
38.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cadwraeth[golygu]

Mae Cors Bodwrog ger Gwalchmai yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sillafiad Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd: 2007; tud. 916
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.